Rydym yn ymgynghori â chymuned Llansteffan ar gynllun newydd i’r pentref a fydd yn helpu rheoli ei boblogrwydd cynyddol fel cyrchfan i ymwelwyr a gwella cyfleusterau cymunedol
Fel llawer o gyrchfannau arfordirol tebyg, mae Llansteffan wedi gweld twf mewn ymwelwyr sydd â’u bryd ar brofi amgylcheddau deniadol, treftadaeth a gweithgareddau awyr agored. Fodd bynnag, mae nifer yr ymwelwyr hefyd wedi rhoi pwysau ar seilwaith y pentref, gan achosi problemau’n ymwneud â dwysedd traffig, parcio anghyfreithlon a gwersylla dros nos heb ganiatâd. Bydd penderfynu sut y gall Llansteffan fynd i’r afael â’r problemau hyn gan dyfu ar yr un pryd fel cyrchfan ddydd a chyrchfan dros nos, cefnogi busnesau a diogelu amwynder trigolion lleol, yn rhan hanfodol o’r Cynllun newydd.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, mae cynllun drafft wedi cael ei greu y gellir ei weld isod. Rydym unwaith eto’n gwahodd cymuned Llansteffan i roi sylwadau ar ein cynigion i helpu dylanwadu ymhellach ar y Cynllun newydd.
Sut allaf i roi sylwadau a chymryd rhan?

Wrth ddefnyddio’r dolenni isod gallwch weld y cynllun drafft a gadael eich sylwadau a’ch ymateb.

Sylwadau erbyn Hydref 24ain

Dewiswch un o’r dewisiadau isod i wybod mwy ac i roi adborth
Llinell Amser
Ymchwil cefndir, adnabod yr ystyriaethau a’r syniadau allweddolMai-Mehefin 2022
Dadansoddiad SWOT a chynigion cychwynnolGorffennaf-Awst 2022
Y cynllun drafft ac adborth y cyhoeddAwst-Medi 2022
Cynllun terfynolHydref/Tachwedd 2022
Rhannwch y dudalen hon


Engagement platform powered by Participatr on behalf of Owen Davies Consulting

Privacy and cookie policy // Website terms of use // Accessibility statement